Beth yw aflonyddu rhywiol a stelcio?

Beth yw aflonyddu rhywiol a stelcio?

Aflonyddu rhywiol yw unrhyw ymddygiad digroeso o natur rywiol a all achosi tramgwydd neu ofid neu a fydd yn bygwth neu’n bychanu person.

Mae sawl math o aflonyddu rhywiol, gall ymddangos fel hyn:

  • gwneud sylwadau neu ystumiau rhywiol diraddiol
  • syllu neu gilwenu
  • jôcs neu gynigion rhywiol digroeso neu amhriodol
  • negeseuon e-bost, cyfryngau cymdeithasol neu negeseuon testun â chynnwys rhywiol
  • cynigion rhywiol a chyffwrdd digroeso, mathau o ymosodiad rhywiol
  • arddangos lluniau rhywiol amlwg mewn lle cyhoeddus, fel yn y gweithle

Mae aflonyddu rhywiol yn aml yn digwydd mewn mannau cyhoeddus, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn ysgolion.

Mae dau fframwaith cyfreithiol sy’n gwneud Aflonyddu Rhywiol a Stelcio yn drosedd, sef Deddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Diogelu Rhyddidau 2012.

Nid oes diffiniad cyfreithiol o stelcio ond mae ymddygiadau a allai fod yn stelcio yn cynnwys, dilyn, cysylltu neu geisio cysylltu â rhywun, monitro’r cyfyngau cymdeithasol neu ddull cyfathrebu arall, loetran mewn lle cyhoeddus neu breifat, gwylio neu ysbïo ar berson ac ymyrryd ag eiddo neu feddiannau person.

I gael cymorth

Dylai unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan y mathau hyn o drais a cham-drin allu cael gafael ar gymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt a dylai pob achos gael ei gymryd o ddifrif.

Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar gael am ddim 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos i fenywod, plant a dynion sy’n profi cam-drin domestig, trais rhywiol neu fathau eraill o drais yn erbyn menywod.