Beth yw priodas dan orfod?

Priodas dan orfod yw lle nad yw un neu’r ddau berson yn cydsynio neu’n methu â chydsynio i’r briodas a lle caiff pwysau, gorfodaeth neu gam-drin gan aelodau‘r teulu neu eraill eu defnyddio i’w gorfodi nhw i briodi.

Nid yw priodas dan orfod yn fater sy’n perthyn yn benodol i unrhyw grefydd, grŵp ethnig neu ddiwylliant. Mae cydsyniad sy’n cael ei roi yn rhydd yn rhagofyniad o briodasau Cristnogol, Iddewig, Hindŵ, Mwslimaidd a Sikh.

Mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn ei gwneud hi’n drosedd i orfodi rhywun i briodi. Mae hyn yn cynnwys:

  • mynd â rhywun dramor i’w gorfodi i briodi (boed y briodas dan orfod yn digwydd ai peidio)
  • priodi rhywun nad oes ganddyn nhw’r gallu meddyliol i gydsynio i’r briodas (boed yr unigolyn dan bwysau ai peidio)
  • mae torri Gorchymyn Amddiffyn rhag Priodas dan Orfod hefyd yn drosedd

Mae Gorchymyn Amddiffyn rhag Priodas dan Orfod sydd ar gael drwy’r llysoedd teulu (llysoedd sifil) yn parhau i fodoli ochr yn ochr â’r drosedd, felly gall dioddefwyr ddewis sut maen nhw’n dymuno cael cymorth.

 

I gael cymorth

Dylai unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan y mathau hyn o drais a cham-drin allu cael gafael ar gymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt a dylai pob achos gael ei gymryd o ddifrif.

Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar gael am ddim 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos i fenywod, plant a dynion sy’n profi cam-drin domestig, trais rhywiol neu fathau eraill o drais yn erbyn menywod.