Beth yw anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM)?

What is female genital mutilation (FGM)?

Mae anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) yn cyfeirio at amrywiaeth o driniaethau sydd wedi’u bwriadu naill ai i niweidio neu gael gwared â genitalia allanol benywod yn rhannol neu’n llwyr am unrhyw resymau nad ydyn nhw’n feddygol. Fel arfer caiff ei wneud i ferched rhwng 1 a 15 oed, ond gall goroeswyr fod yn hŷn neu’n iau.

Mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn fater byd-eang. Mae rhai’n honni ei fod yn cael ei gyflawni am resymau crefyddol, ond nid yw’n ofyniad ar gyfer unrhyw grefydd ac mae’r arfer yn hŷn na’r mwyafrif o grefyddau. Mae anffurfio organau cenhedlu benywod wedi’i gondemnio gan y Cenhedloaedd Unedig ac yn ehangach gan lawer o arweinwyr a sefydliadau crefyddol ledled y byd.

Effeithiau anffurfio organau cenhedlu benywod

Nid oes unrhyw fanteision meddygol o anffurfio organau cenhedlu benywod, ond gall gael effeithiau niweidiol difrfol fel:

  • Poen difrifol
  • Heintiau cronig a chymhlethdodau iechyd o ganlyniad i hynny, er enghraifft, firysau sydd wedi’u cludo gan y gwaed
  • Sioc, gwaedlif, a marwolaeth
  • Anhwylder straen wedi trawma (PTSD)
  • Iselder a gorbryder
  • Niwed i organau
  • Anhawster pasio wrin a mislif annormal
  • Meinwe greithiol
  • Niwed i’r system atgenhedlu, a all arwain at anffrwythlondeb
  • Poen yn ystod rhyw neu libido isel
  • Cymhlethdodau yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth
  • Hunan-barch isel

 

I gael cymorth

Dylai unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan y mathau hyn o drais a cham-drin allu cael gafael ar gymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt a dylai pob achos gael ei gymryd o ddifrif.

Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar gael am ddim 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos i fenywod, plant a dynion sy’n profi cam-drin domestig, trais rhywiol neu fathau eraill o drais yn erbyn menywod.