Beth yw cam-drin domestig?

Digwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o ymddygiad sy’n rheoli, gorfodi, bygwth, diraddio, neu ymddygiad treisgar, gan gynnwys trais rhywiol¹. Gan amlaf, mae hyn yn digwydd gan bartner neu gyn-bartner, ond gall aelod o’r teulu neu ofalwr ei achosi hefyd. Gall cam-drin domestig ddigwydd yn y cartref neu rywle arall, ac yn aml mae’n parhau ar ôl i’r berthynas rhwng y goroeswr a’r cyflawnwr ddod i ben.

Gall cam-drin domestig ddigwydd i unrhyw un.

Os yw ymddygiad yn arwain at deimladau o ofn, braw neu ofid, mae’n gam-drin. Mae hawl gennych chi deimlo’n ddiogel a byw heb ofn.

Mathau o gam-drin domestig

Mae nifer o wahanol fathau o gam-drin domestig. Gall y rhain gynnwys, ymhlith pethau eraill:

(Cliciwch y penawdau isod i gael mwy o wybodaeth os gwelwch yn dda. Nodwch fod y rhain yn cynnwys disgrifiadau o gam-drin a all beri gofid.)

 

I gael cymorth

Dylai unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan y mathau hyn o drais a cham-drin allu cael gafael ar gymorth a chefnogaeth pan fydd ei angen arnynt a dylai pob achos gael ei gymryd o ddifrif.

Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar gael am ddim 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos i fenywod, plant a dynion sy’n profi cam-drin domestig, trais rhywiol neu fathau eraill o drais yn erbyn menywod.