Dewch o hyd i’ch gwasanaeth lleol

Mae’r dudalen hon yn cynnwys manylion cyswllt gwasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Yn ychwanegol at y gwasanaethau sy’n cael eu rhestru o dan bob awdurdod lleol, nodwch y canlynol os gwelwch yn dda:

  • Llinell Gymorth Byw Heb Ofn, Llinell Gymorth Genedlaethol Cymru sy’n darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i unigolion sydd wedi profi, neu’n poeni y gall rhywun maen nhw’n ei adnabod fod yn profi unrhyw fath o drais neu gam-drin. Mae’r Llinell Gymorth yn gweithredu 24/7 ac mae modd cysylltu drwy ffonio – 0808 80 10 800; testun – 07860 077333; e-bost – [email protected]; neu sgwrs fyw.
  • Bawso yw’r prif sefydliad yng Nghymru sy’n darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i ddioddefwyr o leiafrifoedd ethnig sydd wedi profi cam-drin domestig, trais rhywiol, masnachu mewn pobl, anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM), a phriodas dan orfod. Mae modd cysylltu â Llinell Gymorth BAWSO ar gyfer Cymru gyfan 24/7 ar 0800 731 8147 [email protected].
  • Yng Ngogledd Cymru (Ynys Môn, Conwy, Gwynedd, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam), mae dau brif wasanaeth cymorth ar gyfer trais rhywiol: mae’r Ganolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol (RASASC) yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth arbenigol, a therapi i unrhyw un sydd wedi profi unrhyw fath o gam-drin a thrais rhywiol; mae modd cysylltu â nhw ar 01248 670 628 neu [email protected]. Mae Stepping Stones yn darparu gwasanaethau therapiwtig i oedolion sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol fel plant; mae modd cysylltu â nhw ar 01978 352 717 neu [email protected].
  • Yng Nghanolbarth, Gorllewin, Dwyrain a De Cymru, y prif ddarparwr gwasanaeth cymorth ar gyfer trais rhywiol yw New Pathways. Mae New Pathways yn darparu cwnsela a chymorth arbenigol i rai sydd wedi goroesi cael eu treisio’n ddiweddar ac yn y gorffennol ac mae modd cysylltu â nhw ar 01685 379 310 neu [email protected].