Cuddio’ch hanes ar-lein

Rhybudd: os ydych chi’n poeni bod rhywun yn gwybod eich bod wedi ymweld â’r wefan hon, darllenwch yr wybodaeth diogelwch ganlynol.

Nodwch fod y canllaw hwn yn cyfeirio at fersiynau meddalwedd yn Saesneg.

Sut gall camdriniwr ddod i wybod am eich gweithgareddau ar y rhyngrwyd?

Cymerwch funud neu ddau os gwelwch yn dda i ddarllen y rhybudd isod a chymryd camau i wella eich diogelwch wrth ymweld â’r wefan hon.

Bydd y mwyafrif o borwyr rhyngrwyd yn cadw gwybodaeth benodol wrth i chi syrffio’r rhyngrwyd. Mae hyn yn cynnwys lluniau o wefannau rydych chi wedi ymweld â nhw, gwybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i beiriannau chwilio a llwybr (‘hanes’) sy’n dangos y safleoedd rydych chi wedi ymweld â nhw. Dilynwch y cyfarwyddiadau isod os gwelwch yn dda i leihau’r siawns y bydd rhywun yn darganfod eich bod chi wedi ymweld â’r wefan hon.

Os ydych chi’n gwybod pa borwr rydych chi’n ei ddefnyddio, ewch yn syth at y cyfarwyddiadau perthnasol isod. Os nad ydych chi’n gwybod pa fath o borwr rydych chi’n ei ddefnyddio, cliciwch Help ar y bar offer ar frig sgrin y porwr. Bydd cwymplen yn ymddangos, a bydd y cofnod olaf yn dweud About Internet Explorer, About Mozilla Firefox, neu rywbeth tebyg. Mae’r cofnod yn cyfeirio at y math o borwr rydych chi’n ei ddefnyddio – yna dylech chi allu cyfeirio at y cyfarwyddiadau perthnasol isod.

Botwm i adael y safle

Bydd botwm pinc ‘Exit Site’ ar ochr dde gwefan Cymorth i Ferched Cymru yn cuddio’r dudalen yn gyflym ond bydd angen i chi ddileu eich hanes yn llwyr i guddio’ch llwybr pori.

Pori preifat

Mae gan y prif borwyr gwe fodd “pori preifat”, ac os byddwch chi’n ei weithredu, ni fydd dim byd yn cael ei storio am eich gweithgaredd ar y cyfrifiadur yn y ffenest pori honno. Ni fydd hyn yn atal gwasanaethau ar-lein rhag gweld beth rydych chi’n ei wneud, ond ni fydd yn gadael unrhyw ôl o’ch gweithgarwch ar eich cyfrifiadur (dim hanes, storfa gwe na dim byd arall) ac felly mae’n gam cyntaf da i’w ddefnyddio.

Internet Explorer: Ewch i Safety – Tools – “InPrivate Browsing”.

Firefox: Cliciwch fotwm y Ddewislen gyda thair llinell lorweddol – “New Private Window”.

Chrome: Cliciwch fotwm y Ddewislen gyda thair llinell lorweddol a dewis “New Incognito Window”.

Mae opsiynau tebyg i’w cael yn Opera a Safari.

Gwnewch yn siŵr nad oes dim byd yn cael ei storio drwy ddilyn y camau isod.

Internet Explorer

Cliciwch y ddewislen Tools a dewis Internet Options. Ar y dudalen General dan Temporary Internet Files, cliciwch Delete Cookies ac yna OK. Cliciwch Delete Files, ticiwch y blwch Delete all offline content a chliciwch OK. Dan History, cliciwch Clear History ac yna OK. Nawr edrychwch ar frig y ffenest a chlicio’r tab Content, dewis AutoComplete ac yn olaf, Clear Forms.

Firefox

Cliciwch Tools ac yna Options, yna cliciwch Privacy. Cliciwch y botwm Clear nesaf at Cache and Saved Form Information.

Dileu eich hanes pori

Mae porwyr rhyngrwyd hefyd yn cadw cofnod o’r holl dudalennau gwe rydych chi’n ymweld â nhw. Caiff hyn ei alw yn ‘hanes’. I ddileu hanes ar Internet Explorer a Firefox pwyswch allwedd Ctrl ar y fyseddell a’i ddal, yna pwyswch yr allwedd H (Ctrl, Alt a H ar gyfer Opera). Chwiliwch am unrhyw gofnod sy’n cynnwys www.womensaid.org.uk, rhowch glic ochr dde a dewis Delete.

Ebost

Os yw camdriniwr yn anfon negeseuon ebost atoch sy’n fygythiol neu sy’n aflonyddu, gallech eu hargraffu a’u cadw fel tystiolaeth o gam-drin. Caiff unrhyw ebost y byddwch chi wedi’i anfon yn flaenorol ei storio yn Sent Items. Os ydych chi’n dechrau ebost ond ddim yn ei orffen, gallai fod yn y ffolder Draft. Os ydych chi’n ateb unrhyw ebost, mae’n debygol y bydd y neges wreiddiol i’w gweld yng nghorff y neges – argraffwch a dilëwch yr ebost os nad ydych chi am i neb weld eich neges wreiddiol.

Pan fyddwch chi’n dileu eitem mewn unrhyw raglen ebost (Outlook Express, Outlook, ac ati) nid yw’n dileu’r eitem mewn gwirionedd – mae’n symud yr eitem at y ffolder Deleted Items. Rhaid i chi ddileu’r eitemau yn y ffolder honno’n unigol. Rhowch glic ochr dde i’r eitemau i ddileu eitemau unigol.

Bariau offer

Mae bariau offer fel Google, AOL a Yahoo yn cadw cofnod o’r geiriau chwilio rydych chi wedi’u teipio i flwch chwilio’r bar offer. Er mwyn dileu’r holl eiriau chwilio rydych chi wedi’u teipio, bydd angen i chi edrych ar gyfarwyddiadau unigol pob math o far offer. Er enghraifft, ar gyfer Google y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw clicio ar yr eicon Google a dewis “Clear Search History”.

Diogelwch cyffredinol

Os nad ydych chi’n defnyddio cyfrinair i fewngofnodi i’ch cyfrifiadur, bydd rhywun arall yn gallu gweld eich ebost a thracio eich defnydd o’r rhyngrwyd. Y ffordd fwyaf diogel o ddod o hyd i wybodaeth ar y rhyngrwyd fyddai mewn llyfrgell leol, tŷ ffrind neu yn y gwaith.

Mae’n bosib na fydd yr holl wybodaeth uchod yn cuddio eich defnydd o’r we. Mae gan lawer o borwyr nodweddion sy’n dangos safleoedd yr ymwelwyd â nhw’n ddiweddar.

Wedi’i gymryd gyda chaniatâd: https://www.womensaid.org.uk/cover-your-tracks-online/


Cam-drin ar-lein a digidol

Caiff llwyfannau ar-lein eu defnyddio’n gynyddol i gyflawni cam-drin domestig. Gall cam-drin domestig ar-lein gynnwys ymddygiad fel monitro proffiliau cyfryngau cymdeithasol neu ebost, cam-drin dros y cyfryngau cymdeithasol fel Facebook neu Twitter, rhannu lluniau neu fideos personol heb eich caniatâd, defnyddio lleolwyr GPS neu ysbïwedd.

Cadw’n ddiogel ar-lein

Dylai gwasanaethau ar-lein a chyfryngau cymdeithasol fod yn agored ac yn ddiogel i bawb eu defnyddio. Rydyn ni’n gwybod bod cyflawnwyr cam-drin domestig yn aml yn defnyddio dulliau digidol i gam-drin dioddefwyr.

Isod fe welwch wybodaeth am sut i gadw’n ddiogel ar rai o brif lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol.

Os ydych chi angen cymorth, cysylltwch â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800.

Mae rhagor o wybodaeth am ddileu cwcis a chuddio eich hanes pori yma.

Twitter

Mae gan Twitter rai rheolau a pholisïau penodol y mae disgwyl i bawb sy’n ei ddefnyddio eu dilyn. Mae’r rheolau’n cynnwys peidio â cham-drin pobl ar Twitter. Pan fydd rhywun yn torri’r rheolau mae modd eu cosbi. Rydyn ni’n gwybod bod cyflawnwyr yn defnyddio Twitter i gam-drin eu partneriaid neu gynbartneriaid, monitro eu symudiadau a hefyd i gyflawni ymddygiad arbennig fel pornograffi dial. Mae hyn yn annerbyniol ac yn torri rheolau a pholisïau Twitter.

Isod mae rhai o’r prif ffyrdd i gadw’n ddiogel ar Twitter. Mae offerynnau ac adnoddau eraill ar gael ac mae’r rhain i’w gweld ar Ganolfan Diogelwch Twitter

Gallwch atal pobl eraill rhag gweld eich trydar – gallwch ‘ddiogelu’ eich trydar er mwyn sicrhau mai dim ond pobl rydych chi’n eu cymeradwyo sy’n gallu gweld eich trydar. Dyma sut i ddiogelu eich trydar

Diffodd y lleoliad – os oes lleoliad wedi’i ychwanegu at eich trydar gallai fod yn haws i’r cyflawnwr neu ei ffrindiau a theulu ddod o hyd i chi. Dyma sut i wirio eich gosodiadau a’u ddiffodd:

  1. Yn y blwch cyfansoddi trydar ar twitter.com, cliciwch y botwm lleoliad.
  2. Dewiswch Turn off location o’r gwymplen.
  3. Bydd y gosodiad Turn off location yn cael ei gadw, felly y tro nesaf y byddwch yn trydar ar twitter.com ni fydd eich lleoliad yn ymddangos.

Blociwch rywun sy’n aflonyddu – os ydych chi’n cael eich cam-drin neu eich aflonyddu gan rywun ar-lein gallwch eu hatal rhag gweld eich proffil neu dderbyn unrhyw rai o’u trydar. NODWCH os ydych chi’n blocio rhywun, byddan nhw’n gwybod eich bod wedi’u blocio. Dyma sut i flocio rhywun

Hysbyswch am y cam-drin – gallwch wneud adroddiad am rywun sy’n cam-drin, yn eich bygwth neu’n aflonyddu arnoch chi ar Twitter. Cyflwynwch adroddiad gyda’r ffurflen hon

Defnyddiwch eich adroddiad fel tystiolaeth – os ydych chi wedi gwneud adroddiad am rywun sy’n cam-drin gallwch chi hefyd lawrlwytho’r adroddiad i’w ddefnyddio fel tystiolaeth i’r heddlu neu asiantaethau eraill. Dyma sut i ddefnyddio’ch adroddiad fel tystiolaeth.

Facebook

Mae gan Facebook rai rheolau y mae disgwyl i bawb sy’n ei ddefnyddio eu dilyn. Mae’r rheolau’n cynnwys peidio â cham-drin pobl ar Facebook. Pan fydd rhywun yn torri’r rheolau mae modd eu cosbi. Rydyn ni’n gwybod bod cyflawnwyr yn defnyddio Facebook i gam-drin eu partneriaid neu gynbartneriaid, i fonitro eu symudiadau a hefyd i gyflawni ymddygiad arbennig fel pornograffi dial. Mae hyn yn annerbyniol ac yn torri rheolau a pholisïau Facebook.

Gallwch ddysgu am elfennau preifatrwydd Facebook yma: elfennau preifatrwydd Facebook

Dyma rai o’r prif ffyrdd i gadw’n ddiogel ar Facebook. Mae ffyrdd eraill ar gael hefyd ac mae’r rhain i’w gweld yng Nghanolfan Diogelwch Facebook:

  • Dileu rhywun fel ffrind
  • Blocio rhywun sy’n eich cam-drin neu’n eich aflonyddu
  • Hysbysu am rywun sy’n eich cam-drin neu’n eich aflonyddu

Dysgwch fwy am sut i ddefnyddio’r elfennau hyn ar Facebook

Instagram

Ewch i dudalen awgrymiadau preifatrwydd a diogelwch Instagram i gael gwybodaeth am sut i gadw’n ddiogel ar y safle.

TikTok

Ewch i dudalen preifatrwydd a diogelwch TikTok i gael gwybodaeth am sut i gadw’n ddiogel ar eu safle.

Rhagor o ddolenni defnyddiol

Beth i’w wneud os oes rhywun yn bygwth rhannu pethau rydych chi am eu cadw’n breifat

Beth i’w wneud os oes rhywun yn esgus bod yn chi ar Facebook

Gallwch ymgymryd â gwiriad diogelwch Facebook i gael diogelwch ychwanegol i’ch cyfrif. Rhagor o wybodaeth

Hefyd gallwch lawrlwytho eich data Facebook mewn PDF a’i ddefnyddio unrhyw ffordd rydych chi’n ei ddymuno. Gallai hyn fod ar gyfer prawf i’r heddlu o gam-drin ar-lein neu ofynion tystiolaeth eraill.

I lawrlwytho data o’ch tudalen Facebook:

  1. Cliciwch ar frig ochr dde unrhyw dudalen Facebook a dewis Settings
  2. Cliciwch Download a copy of your Facebook data yn y Gosodiadau Cyfrif Cyffredinol
  3. Cliciwch Start My Archive

Wedi’i gymryd gyda chaniatâd: https://www.womensaid.org.uk/information-support/what-is-domestic-abuse/onlinesafety/