Rydych chi wedi mewngofnodi. Allgofnodi
Angen help? Cliciwch yma neu ffonio 0808 80 10 800

Ardal yr Aelodau: Pwy ydym ni

Mae Cymorth i Ferched Cymru yn ei hanfod yn sefydliad aelodaeth. Rydym ni’n eich cynrychioli, yn ymgyrchu drosoch, ac yn eich cefnogi chi, ein haelodau – ffederasiwn o elusennau lleol annibynnol sy’n cyflenwi gwasanaethau arbenigol ym maes cam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod yng Nghymru.

Mae gennym staff sy’n gweithio ar draws Cymru i gyflenwi ein holl brosiectau sydd hefyd yn cynnwys Llinell Gymorth Byw Heb Ofn; gwasanaethau lloches ac eiriolaeth ym Mae Colwyn a Wrecsam; y bartneriaeth Gwasanaeth Hyfforddi Cenedlaethol gydag aelod-wasanaethau; y prosiect adeiladu capasiti i wasanaethau arbenigol; Safonau Ansawdd Cenedlaethol Cymru i aelod-wasanaethau, a’r prosiect ataliol Mae Plant yn Bwysig i helpu i fodloni anghenion plant a phobl ifanc ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.

Gallwch weld pwy ydym ni a beth rydym ni’n ei wneud yn ein gwybodaeth staff.

Os nad ydych chi’n siŵr pwy i gysylltu â nhw, defnyddiwch y manylion cyswllt ymholiadau cyffredinol isod.

Ffôn: 02920 541551
Ebost: info@welshwomensaid.org.uk

Our #AskMe pilot in Wales does just that (led by local specialist services), encourages community discussion, increases knowledge & understanding about domestic/sexual abuse & help available, & expands ways women can get help #ChangethatLasts twitter.com/EleriB/status/…

About 15 hours ago from WelshWomensAid's Twitter