Ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a’n gwerthoedd

Mae Cymorth i Ferched Cymru yn sefydliad ffeministaidd croestoriadol, ac mae ein gwerthoedd wedi’u seilio ar ymrwymiad i hawliau dynol, gwrth-wahaniaethu a rhyddid rhag gormes. Rydym ni’n credu’r dystiolaeth bod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn seiliedig ar anghydraddoldeb rhywiol, sy’n achos ac yn ganlyniad safle anghyfartal menywod a merched yn ein cymdeithas, sy’n torri hawliau dynol, ac sy’n hollol bosibl ei atal.

Sut mae Cymorth i Ferched Cymru a’n haelod-wasanaethau yn rhoi ein gwerthoedd ar waith?

Mae ein gwerthoedd yn rhedeg drwy ein prosesau recriwtio, y ffordd rydym ni’n gweithio gyda goroeswyr a sut rydym ni’n cydweithio â sefydliadau eraill. Mae’n golygu ein bod yn ddigyfaddawd wrth wynebu mater camddefnyddio pŵer neu arferion gormesol heriol, mae’n golygu ein bod yn rhannu arbenigedd, ein bod yn derbyn na fyddwn ni bob amser yn ei gael yn iawn, a’n bod yn ymrwymo i ddysgu a symud ymlaen er lles pob goroeswr cam-drin.

Mae ein dull gweithredu wedi’i lywio gan dystiolaeth bod menywod a merched, a dynion a bechgyn, yn profi ac yn cyflawni trais a cham-drin mewn ffyrdd gwahanol. Mae rhyw a rhywedd y dioddefwr a’r cyflawnwr yn dylanwadu ar natur y cam-drin, ei ddifrifoldeb, y niwed mae’n ei achosi a pha mor angheuol ydyw. Mae menywod a merched, yn benodol, yn profi cam-drin yn eu bywydau bob dydd ar gyfraddau uwch, a dynion, ar draws pob grŵp, sydd fwyaf tebygol o gyflawni cam-drin yn erbyn menywod, dynion a phlant.

Mae trais hefyd yn digwydd mewn perthnasoedd un rhyw ac yn erbyn pobl draws, ac mae menywod hefyd yn defnyddio trais. Felly, rydym ni’n ymrwymo i arferion gwrth-wahaniaethol ac i sicrhau diogelwch, cymorth, amddiffyniad a chyfiawnder i bob menyw a merch, dyn a bachgen, ac i bobl draws. Mae ein polisi trawsrywedd yn ymrwymo i gefnogi gwireddu hawliau pobl draws, a darparu gwasanaethau a chymorth traws-gynhwysol.

Rydym ni’n cefnogi’r dystiolaeth am bwysigrwydd mannau a gwasanaethau ar gyfer menywod yn unig (Deddf Cydraddoldeb 2010), yn ogystal â’r angen am wasanaethau sydd wedi’u cynllunio, eu darparu a’u harwain ‘gan ac ar gyfer’ menywod, menywod duon a lleiafrifol a grwpiau eraill.

Nid yw’r gwerthoedd a’r dull gweithredu hyn yn atal sefydliadau yn ein ffederasiwn rhag cyflogi dynion, cefnogi dynion a bechgyn, na gweithio gyda chyflawnwyr. Mae darparu gwasanaethau sy’n seiliedig ar anghenion goroeswyr, sy’n sensitif i ryw, rhywedd, ethnigrwydd, diwylliant, rhywioldeb, oed a gallu yn elfen hanfodol o wasanaethau arbenigol, o gefnogi goroeswyr yn effeithiol ac o ymyrryd â chyflawnwyr.

Ystrydebau di-fudd o fenywod a dynion yn aml yw sail trais yn erbyn menywod a merched. Caiff yr ystrydebau hyn eu cryfhau wrth gael eu cyfuno â rhywiaeth, hiliaeth, homoffobia a mathau eraill o wahaniaethu ac maen nhw’n niweidiol i bawb.

Rydym ni wedi ymrwymo i’r gwaith o herio, chwalu a newid normau cymdeithasol a diwylliannol sy’n derbyn ac yn cynnal trais yn erbyn menywod a merched.