Amdanom ni

 

Rydyn ni wedi bod ar flaen y gad o ran llunio ymatebion ac arferion cymunedol cydgysylltiedig yng Nghymru ers i ni gael ein sefydlu yn 1978. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy ymgyrchu am newid a thrwy ddarparu cyngor, gwasanaeth ymgynghori, cymorth a hyfforddiant i sicrhau gwelliannau polisi a gwasanaethau i oroeswyr, teuluoedd a chymunedau.

Rydym ni’n darparu gwasanaethau gan gynnwys Llinell Gymorth Byw Heb Ofn a gaiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, a Gwasanaeth Hyfforddi Cenedlaethol.

Rydym ni hefyd yn darparu Safonau Ansawdd Gwasanaeth Cenedlaethol (NQSS), fframwaith achredu cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig yng Nghymru (wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru) a’r prosiect Newid sy’n Para; dull sy’n seiliedig ar gryfderau ac sydd wedi’i arwain gan anghenion sy’n cefnogi goroeswyr pob math o drais yn erbyn menywod, a’u plant, i feithrin gwydnwch, gan arwain at annibyniaeth.