Rydych chi wedi mewngofnodi. Allgofnodi
Angen help? Cliciwch yma neu ffonio 0808 80 10 800

Newyddion

12 Mai, 2017

Darn ITV ar Reolaeth Gymhellol

Y mis hwn rydyn ni’n ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth am reolaeth gymhellol. Gweithion ni gydag ITV i adrodd hanes un fenyw a thynnu sylw at yr hyfforddiant rydyn ni wedi bod yn ei wneud gyda’r heddlu ar sut i adnabod arwyddion o reolaeth gymhellol. Rheolaeth gymhellol yw pan fydd unigolyn yn ymddwyn dro ar ôl tro mewn modd sy’n gwneud i unigolyn arall deimlo dan reolaeth, wedi’i ynysu neu’n ofnus. Gallai hyn olygu ynysu rhywun oddi wrth eu ffrindiau a theulu, rheoli eu harian, monitro beth mae’n ei wneud a ble mae’n mynd, bychanu a gwneud i iddyn nhw deimlo’n ddiwerth neu fygwth eu niweidio nhw, eu plant neu eu heiddo. Nid oes rhestr ddiffiniol o fathau o ymddygiad, oherwydd bydd y sawl sy’n cam-drin yn defnyddio gwahanol ffyrdd i sefydlu ymddygiad sy’n rheoli neu’n cymell. Mae rheolaeth gymhellol yn drosedd yng Nghymru a Lloegr

I wylio darn ITV yn llawn, cliciwch yma.

Are you a graphic artist or a cartoonist who is passionate about creating socially engaging cartoons, while trying to initiate a positive change in the society? We would like to invite you to put your skills to use for women’s rights! Find out more here: ow.ly/1NBm50ju1aw pic.twitter.com/Z1fbLUh46K

About 6 hours ago from WelshWomensAid's Twitter